Mark Isherwood AS

Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru

 

 

 

 

Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru) arfaethedig

 

 

 

 

 

 

Ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer deddfwriaeth i wneud darpariaeth i hybu a hwyluso’r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a’i ffurfiau cyffyrddol yng Nghymru; gwella mynediad at addysg, iechyd a gwasanaethau cyhoeddus drwy gyfrwng BSL a chefnogi’r broses o chwalu’r rhwystrau sy'n bodoli i bobl

fyddar a'u teuluoedd ym meysydd addysg, iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau cymorth ac yn y gweithle.

 

Bydd y ddeddfwriaeth hefyd yn gweithio tuag at sicrhau nad yw pobl sy’n defnyddio BSL yn cael eu trin yn llai ffafriol nag unigolion sy’n siarad Cymraeg neu Saesneg, a sefydlu rôl Comisiynydd BSL gyda’r un pwerau â Chomisiynwyr ieithoedd lleiafrifol eraill.

 

 

 

 

Cam i'w gymryd: Ymatebion erbyn 17 Ionawr 2025

 

 

 

 

 

Mae’r ddogfen yma hefyd ar gael drwy gyfrwng BSL ac yn Saesneg.

This document is also available in BSL and English.


 

Trosolwg: Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar yr amcanion polisi a’r cynigion ar gyfer Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru).

 

Sut i ymateb:Dylid e-bostio neu bostio ymatebion gan ddefnyddio'r manylion isod, neu drwy ddefnyddio'r ffurflen ymateb ar-lein, erbyn 17 Ionawr 2025 fan bellaf. Gellir llwytho ymatebion BSL i'r ymgynghoriad gan ddefnyddio'r porth BSL ar dudalen yr ymgynghoriad.  

 

Sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio: Mae'n bosibl y caiff y wybodaeth a ddarperir gennych ei defnyddio gan Aelodau o’r Senedd (gan gynnwys yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil), staff cymorth neu staff Comisiwn y Senedd, at ddibenion datblygu'r Bil Aelod, hybu'r effaith y bwriedir i'r Bil ei chael, a gwaith craffu dilynol ar y Bil.

 

I gael y manylion llawn am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio, gweler polisi’r Senedd ar Ymgynghoriadau ar Filiau Aelod – Hysbysiad Preifatrwydd.

 

Mae rhagor o wybodaeth am y broses Bil Aelod ar gael yn y Canllaw i’r broses ar gyfer Bil Aelod.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

 

Gareth Rogers

Clerc – Cymorth Craffu

Senedd Cymru

Tŷ Hywel

Cardiff Bay

CF99 1SN

e-bost: BiliauAelod@senedd.cymru

 


 

Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru) arfaethedig

 

Cyflwyniad

 

Cyflwynwyd y ddeddfwriaeth ddrafft hon yn unol â'r rheolau a nodir yn Rheolau Sefydlog y Senedd, sy'n galluogi Aelodau o’r Senedd nad ydynt yn rhan o’r Llywodraeth i gynnig cyfreithiau newydd i Gymru.

 

Ym mis Ebrill 2024, roeddwn yn llwyddiannus mewn balot a gynhaliwyd o dan Reol Sefydlog 26.87 y Senedd ac enillais yr hawl i gyflwyno cynnig ar gyfer cyfraith newydd. Cyflwynais gynnig ar gyfer Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru). Yn unol â’r Rheolau Sefydlog, datblygais fy nghynnig ymhellach a chyhoeddais Femorandwm Esboniadolyn nodi'r amcanion polisi a phrif nodau'r cynnig yn fanylach.

 

Ar 19 Mehefin 2024, cynhaliwyd dadl caniatâd i fwrw ymlaen’, a chytunodd y Senedd y gallwn gyflwyno Bil o fewn 13 mis i ddyddiad y ddadl honno er mwyn rhoi’r cynnig a ddewiswyd yn y balot cynharach ar waith, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd yn y Memorandwm Esboniadol.

 

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y Bil arfaethedig ac ar yr amcanion polisi y mae'n ceisio eu cyflawni. Nid oes rhaid i ymatebwyr ateb pob cwestiwn, ond byddai'n ein helpu i barhau i ddatblygu'r Bil os gellid sicrhau bod unrhyw ateb a roddir yn rhoi cymaint o fanylion â phosibl.

 

 

Mark Isherwood AS

Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru

Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru) arfaethedig: Ymgynghoriad

 

Cefndir a Diben y Bil drafft

 

1. Diben y Bil Iaith Awyddion Prydain (BSL) (Cymru) yw gwneud darpariaeth i hybu a hwyluso’r defnydd o BSL a’i ffurfiau cyffyrddol yng Nghymru; gwella mynediad at addysg, iechyd a gwasanaethau cyhoeddus drwy gyfrwng BSL a chefnogi’r broses o chwalu’r rhwystrau sy'n bodoli i bobl fyddar a'u teuluoedd ym meysydd addysg, iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau cymorth ac yn y gweithle.

 

2. Byddai’r Bil hefyd yn gweithio tuag at sicrhau nad yw pobl sy'n defnyddio BSL yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai sy'n siarad Cymraeg neu Saesneg, ac yn sicrhau bod gan gymunedau byddar lais yn ystod y broses o gynllunio a darparu gwasanaethau, er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu eu hanghenion.

 

3. Mae gan y DU a'r Alban eu deddfwriaeth eu hunain mewn perthynas â BSL. Bydd y Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru) arfaethedig yn gwneud darpariaethau penodol ar gyfer Cymru.

 

Beth fydd y Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru) yn ei wneud?

 

4. Prif nodau’r Bil yw:

 

·         cefnogi’r broses o chwalu’r rhwystrau presennol sy'n bodoli i bobl fyddar a'u teuluoedd ym meysydd addysg, iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau cymorth ac yn y gweithle;

·         sicrhau nad yw pobl sy'n defnyddio BSL yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai sy'n siarad Cymraeg neu Saesneg;

·         sicrhau bod gan gymunedau byddar lais wrth ddylunio a darparu’r gwasanaethau a ddefnyddir ganddynt i sicrhau eu bod yn diwallu eu hanghenion;

·         sefydlu Comisiynydd BSL sydd â’r un pwerau â Chomisiynwyr ieithoedd lleiafrifol eraill;

·         rhoi dyletswydd ar y Comisiynydd arfaethedig, Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i gyflwyno adroddiadau.

 

5. Mae rhagor o wybodaeth am y cynnig yn y Memorandwm Esboniadolamlinellol, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2024.

 

 

 

Yr angen am ddeddfwriaeth

  

6. Er bod Deddf Iaith Arwyddion Prydain 2022 y DU wedi cael ei chroesawu, dim ond i Lywodraeth y DU y mae ei darpariaethau’n gymwys.

 

7. Mae’r Ddeddf yn rhoi dyletswydd ar Ysgrifennydd Gwladol y DU i gyflwyno adroddiadau ar hybu a hwyluso'r defnydd o BSL gan adrannau Llywodraeth y DU, ac i ddyroddi canllawiau yn fwy cyffredinol ynghylch hybu a hwyluso’r defnydd o BSL. Fodd bynnag, nid yw’r dyletswyddau hyn yn gymwys i faterion y mae Llywodraeth Cymru’n gyfrifol amdanynt yng Nghymru, megis Iechyd, Gofal Cymdeithasol ac Addysg. Felly, nid yw’n diwallu anghenion defnyddwyr/arwyddwyr a’r gymuned Fyddar ehangach yng Nghymru.

 

8. Bydd y Bil yn rhoi dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i lunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol BSL sy'n disgrifio'r hyn y mae adrannau Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i hybu'r defnydd o BSL.

 

9. Bydd y Bil yn hefyd yn rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i adrodd ar eu cynnydd o ran hybu a hwyluso BSL drwy gylch adrodd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Deddf 2015). Byddai sicrhau bod BSL yn cael ei chynnwys yng nghylch Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ymgorffori BSL yn y fframweithiau polisi a chyfreithiol presennol yng Nghymru. Byddai hyn yn sicrhau bod adnoddau’n cael eu rhannu’n gost-effeithiol drwy ddefnyddio strwythurau presennol i greu cymdeithas decach ar gyfer defnyddwyr/arwyddwyr BSL yng Nghymru yn y tymor hir.

 

Rhwystrau sy’n bodoli i bobl fyddar

 

10. Mae'r gymuned Fyddar yn aml yn wynebu rhwystrau sylweddol i gyfathrebu, gan arwain at ynysu cymdeithasol, cyfleoedd cyflogaeth cyfyngedig, a llai o fynediad at wasanaethau hanfodol. Er bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod BSL fel iaith yn ei rhinwedd ei hun, nid oes digon o adnoddau ar gael ledled y DU ar gyfer yr 87,000 o unigolion sy’n defnyddio BSL fel eu hiaith gyntaf.

 

Plant a phobl ifanc byddar

 

11. Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi nodi’n flaenorol bod diffyg cymorth ar gael i sicrhau y gall aelodau o’r teulu ddefnyddio BSL, gyda diffyg sgiliau cyfathrebu, gan osod rhwystr diangen ac annheg rhwng defnyddwyr/arwyddwyr BSL a’u teuluoedd. Amcangyfrifwyd bod 90 y cant o blant byddar yn cael eu geni i rieni sy’n clywed heb unrhyw brofiad blaenorol o fyddardod, felly gall dysgu bod eu plentyn yn fyddar fod yn gyfnod emosiynol a dryslyd i rieni a gofalwyr.

 

12. Nid yw byddardod yn anhawster dysgu, ond mae plant byddar o dan anfantais oherwydd yr annhegwch parhaus mewn canlyniadau. Mae Cymdeithas Genedlaethol y Plant Byddar wedi nodi bod y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn datgan bod plant a phobl ifanc byddar, ochr yn ochr â’r rhai sy’n ddall neu â nam ar eu golwg, “yn fwy tebygol o fod ag ADY yn rhinwedd y ffaith bod y nam yn debygol o'u hatal neu eu rhwystro rhag defnyddio cyfleusterau addysgol neu hyfforddi ac mae'n debygol o alw am Ddarpariaeth Dysgu Ychwanegol”.

 

Cyrhaeddiad addysgol

 

13. Yn gyffredinol, mae cyrhaeddiad addysgol dysgwyr byddar yn is o gymharu â phlant sy'n clywed. Mae plant byddar tua 26 y cant yn llai tebygol o gyflawni graddau A*-C yn y pynciau craidd, sef Saesneg, Cymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth na’u cyfoedion sy’n clywed.

 

14. Mae ystadegau hefyd yn dangos bod 86 y cant o blant byddar yn cyflawni Dangosydd y Cyfnod Sylfaen o gymharu â 96 y cant o blant sy’n clywed.

 

15. Mae tystiolaeth hefyd yn awgrymu y gall plant sydd â mynediad annigonol at unrhyw fath o iaith brofi amddifadedd iaith. Mae hyn yn arwain at ganlyniadau  gydol oes difrifol o ran datblygiad ieithyddol, emosiynol a gwybyddol plant byddar, yn ogystal â’u llesiant. Ar hyn o bryd, nid oes rhaglen genedlaethol o ddarpariaeth BSL yn ystod y blynyddoedd cynnar ar gyfer plant byddar yn y DU.

 

16. Mae gan lawer o ddefnyddwyr/arwyddwyr BSL byddar oedran darllen a deall is na’r boblogaeth gyffredinol o ganlyniad i allgau ieithyddol, a gallant wynebu allgau cymdeithasol o ganlyniad uniongyrchol i hyn, a all effeithio’n andwyol ar gyflogaeth, addysg a gofal iechyd.

 

Sefydlu Comisiynydd BSL Cymru

 

17. Byddai sefydlu Comisiynydd BSL yng Nghymru sydd â'r un pwerau â Chomisiynwyr ieithoedd lleiafrifol eraill yn arwydd cryf o gefnogaeth i'r gymuned defnyddwyr/arwyddwyr BSL.

 

18. Mae defnyddwyr/arwyddwyr BSL byddar a sefydliadau a arweinir gan bobl fyddar yn sôn yn rheolaidd am heriau sylweddol o ran cyflogaeth, gofal iechyd ac addysg oherwydd diffyg mynediad at BSL. Byddai llunio safonau BSL yn sicrhau bod canllawiau cyfathrebu clir yn cael eu dosbarthu ar draws cyrff a gwasanaethau cyhoeddus Cymru a bod y cyrff a gwasanaethau hynny’n cydymffurfio â hwy, ac yn gosod rhwymedigaeth i hybu a hwyluso BSL.

 

19. Bydd natur a statws y Comisiynydd yn cael eu datblygu ymhellach mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, wrth i’r Bil fynd rhagddo. Y disgwyliadau cychwynnol yw y byddai’r Comisiynydd yn:

 

·         llunio safonau BSL;

·         sefydlu panel cynghori BSL;

·         gosod rhwymedigaeth statudol i gynhyrchu adroddiadau bob pum mlynedd ar sefyllfa BSL yn ystod y cyfnod hwnnw;

·         darparu arweiniad a phroses i gyrff cyhoeddus hybu a hwyluso BSL yn eu priod barthau;

·         sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion.

 

Y Panel Cynghori BSL

 

20. Cynigir y byddai Panel Cynghori BSL yn cynnwys arwyddwyr BSL o Gymru sy'n deall y problemau a wynebir gan ddefnyddwyr/arwyddwyr BSL byddar yng Nghymru ac yn cynnwys yr amrywiadau rhanbarthol sy'n bodoli. Byddai’r Panel hefyd yn gallu rhoi cyngor clir i’r Comisiynydd BSL ynghylch materion polisi, a rhoi arweiniad i wasanaethau cyhoeddus Cymru ar sut i ymgysylltu â defnyddwyr/arwyddwyr BSL yng Nghymru a sicrhau eu bod yn rhan o'r broses gynllunio a darparu.

 

Llunio adroddiadau bob pum mlynedd ar sefyllfa BSL yn y cyfnod hwnnw

 

21. Bydd disgwyl i’r Comisiynydd arfaethedig osod safonau, polisi a chanllawiau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Byddai adroddiadau yn caniatáu i gynnydd gael ei olrhain, ac i dueddiadau gael eu meincnodi dros dymor hwy, a gellid defnyddio hyn, yn ei dro, ar gyfer strategaeth hirdymor. Gallai lywio penderfyniadau polisi a sicrhau tryloywder ac atebolrwydd, gan feithrin perthynas dda â defnyddwyr/arwyddwyr BSL yng Nghymru yn ei dro.

 

Sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion

 

22. Prin yw’r llwybrau ar hyn o bryd i ddefnyddwyr/arwyddwyr BSL wneud cwynion yng Nghymru, yn enwedig gan fod prosesau cwyno fel arfer yn Gymraeg neu yn Saesneg ac, felly, gall defnyddwyr/arwyddwyr BSL wynebu heriau sylweddol.

 

23. Ar hyn o bryd, mae defnyddwyr/arwyddwyr BSL yng Nghymru yn wynebu rhwystrau gweinyddol a chyfreithiol sylweddol o ran cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus. Er enghraifft, efallai y byddant yn mynd i apwyntiadau meddygol lle nad oes Cyfieithydd BSL/Saesneg/Cymraeg wedi'i drefnu. Ymddengys bod hyn yn digwydd yn aml nid yn unig mewn lleoliadau iechyd, ond ar draws yr ystod lawn o wasanaethau cyhoeddus, fel y nodir gan Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn ei Harchwiliad o Lywodraeth Cymru ar gyfer Adroddiad Siarter Iaith Arwyddion Prydain 2022.  

 

24. Ffactor sy’n gwaethygu'r diffyg mynediad hwn yw nad yw’r dull hwn o ddarparu gwasanaethau yn cael ei herio gan nad yw defnyddwyr/arwyddwyr BSL byddar yng Nghymru yn gallu cael mynediad at y mecanweithiau gorfodi a chwyno sydd ar waith. Dylai sefydlu gweithdrefn gwyno BSL fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â’r ddarpariaeth BSL mewn gwasanaethau cyhoeddus. Bydd hyn yn hybu atebolrwydd ac yn lleihau'r posibilrwydd y bydd cyrff cyhoeddus yn cael eu herlyn am esgeulustod. Bydd y gallu i feithrin prosesau cwyno mewn BSL hefyd yn gwella boddhad dinasyddion ac yn golygu y gellir cyflawni amcanion llesiant hirdymor.

 

Cefnogaeth ar gyfer y ddeddfwriaeth arfaethedig

 

25. Ym mis Hydref 2018, roedd galwadau yng nghynhadledd ‘Clust i Wrando 2018’ yng Ngogledd Cymru am ddeddfwriaeth BSL yng Nghymru.

 

26. Yn ystod y Bumed a’r Chweched Senedd, cyflwynais Gynigion Deddfwriaethol gan Aelod i asesu lefel y gefnogaeth gan Aelodau o’r Senedd ar gyfer Bil a fyddai’n gwneud darpariaeth i annog y defnydd o BSL, yn ogystal â gwella mynediad at addysg a gwasanaethau drwy gyfrwng BSL. Cafodd y cynigion hyn eu trafod ar 24 Chwefror 2021 a 7 Rhagfyr 2022. Pleidleisiodd y Senedd o blaid fy nghynigion ar y ddau achlysur.

 

27. Dywedodd Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw Cymru fod amcanion polisi’r Bil arfaethedig yn gadarnhaol ac yn mynd y tu hwnt i ddarpariaethau Deddf Iaith Arwyddion Prydain 2022 y DU drwy gynnwys ymrwymiad i lunio adroddiadau bob pum mlynedd, a fydd yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar y cynnydd sy’n cael ei wneud wrth weithredu’r Bil.

 

28. Er bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain i ddatblygu Siarter BSL newydd i Gymru, dywedodd y Gymdeithas wrthyf fod fy Mil BSL arfaethedig yn gam enfawr ymlaen. Aeth y Gymdeithas ymlaen i ychwanegu mai thema gyffredin sy’n cael ei mynegi gan y gymuned Fyddar yng Nghymru yw’r awydd:

 

·         am fwy o arweinyddiaeth gan bobl fyddar yng Nghymru yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau BSL;

·         bod gwasanaethau BSL yn cael eu darparu gan ddefnyddwyr/arwyddwyr BSL sy’n fyddar eu hunain; a

·         bod cymorth ar gael i alluogi pobl fyddar i arwain gweithgarwch ym meysydd cynllunio proffesiynol a phennu cyllidebau mewn perthynas â materion BSL.

 

29. At hynny, mae nifer o unigolion a sefydliadau wedi nodi eu bod yn cefnogi egwyddorion cyffredinol ac amcanion polisi'r Bil arfaethedig.

 

Y camau nesaf

 

30. Bydd yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael eu cofnodi wrth iddynt ddod i law ac yn cael eu dadansoddi ar ôl diwedd y cyfnod ymgynghori. Caiff adroddiad ar yr ymatebion ei lunio a'i gyhoeddi ochr yn ochr â'r Bil drafft.

 

 


Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru): Cwestiynau’r Ymgynghoriad

 

Yr angen am ddeddfwriaeth

Mae Deddf Iaith Arwyddion Prydain 2022 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU gyhoeddi canllawiau ynghylch hybu a hwyluso defnydd o Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Fodd bynnag, dim ond yn Lloegr y mae’r Ddeddf hon yn gymwys. Nid yw’n gymwys i Lywodraeth Cymru na chyrff cyhoeddus yng Nghymru, fel cynghorau neu’r GIG.  Nod Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru) yw gosod dyletswyddau penodol cyfatebol ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus yng Nghymru.

1.    A ydych chi’n credu bod angen y ddeddfwriaeth hon? Rhowch resymau dros eich ateb.

 

2.    A ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r nodau y mae’r Bil yn ceisio eu cyflawni? Rhowch resymau dros eich ateb.

Iaith Arwyddion Prydain

 

3.    A ydych chi’n cytuno y dylai’r Bil gynnwys cynigion i hybu a hwyluso defnydd o BSL a’i ffurfiau cyffyrddol?

 

 Ydw

 Nac ydw 

 Ddim yn gwybod

 

4.    A ydych chi’n cytuno y dylai’r Bil gefnogi’r tafodieithoedd rhanbarthol amrywiol sy’n bodoli yng Nghymru yng nghyd-destun BSL?

 

 Ydw

 Nac ydw

 Ddim yn gwybod

 

5.    A ydych chi’n credu y dylid rhoi ‘BSL signers’ (arwyddwyr BSL) yn lle’r term ‘BSL users’ (defnyddwyr BSL), gan gydnabod bod BSL yn iaith sy’n cynnwys arwyddwyr byddar ac arwyddwyr sy’n clywed? Rhowch resymau dros eich ateb.

 

 Ydw

 Nac ydw

 Ddim yn gwybod

 

6.    A ydych chi o’r farn y gellir defnyddio'r term ‘deaf BSL signers’ ('arwyddwyr BSL byddar') wrth gyfeirio at ddefnyddwyr/arwyddwyr BSL sy'n fyddar yn feddygol neu'n awdiolegol?  Rhowch resymau dros eich ateb. 

 

 Ydw

 Nac ydw

 Ddim yn gwybod

 

Cymunedau byddar

7.    A ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r datganiadau a ganlyn am gymunedau byddar:

 

a) ar hyn o bryd, mae ganddynt lais yn y ffordd y mae’r gwasanaethau cyhoeddus y maent yn eu defnyddio yn cael eu dylunio a’u darparu. Ticiwch yr ateb mwyaf cymwys a nodwch unrhyw sylwadau sydd gennych.

 

 Cytuno’n gryf

 Cytuno

 Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

 Anghytuno

 Anghytuno’n gryf

 

b) dylai fod ganddynt lais ffurfiol yn y ffordd y mae’r gwasanaethau cyhoeddus y maent yn eu defnyddio yn cael eu dylunio a’u darparu, yn enwedig y rhai sydd wedi’u targedu at bobl fyddar. Ticiwch yr ateb mwyaf cymwys a nodwch unrhyw sylwadau sydd gennych.

 

  Cytuno’n gryf

  Cytuno

  Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

  Anghytuno

  Anghytuno’n gryf

 

8.    A oes unrhyw ddulliau cyfathrebu penodol eraill, a ddefnyddir gan bobl fyddar, yr hoffech i’r Bil gyfeirio atynt/eu cynnwys?

Rhwystrau sy’n bodoli i bobl fyddar

9.    Beth, yn eich barn chi, yw’r prif rwystrau sy’n bodoli ar hyn o bryd i bobl fyddar a/neu eu teuluoedd yn y meysydd a ganlyn.  Ticiwch bob un sy’n gymwys a rhowch resymau dros eich ateb.

 

 Addysg

 Iechyd

 Gofal Cymdeithasol

 Trafnidiaeth

 Gwasanaethau cyhoeddus eraill a ddefnyddir gan bobl fyddar a'u teuluoedd

 Gweithle

 Arall – rhowch fanylion

 

Sefydlu Comisiynydd BSL Cymru

Mae’r Bil yn cynnig sefydlu Comisiynydd Iaith Arwyddion Prydain a fyddai’n hybu ac yn hwyluso defnydd o BSL. Byddai gan y Comisiynydd hwn yr un pwerau â Chomisiynwyr ieithoedd lleiafrifol eraill, fel ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

10. A ydych yn cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i sefydlu Comisiynydd BSL Cymru, ac a oes gennych unrhyw awgrymiadau neu ddewisiadau gwahanol? Rhowch resymau dros eich ateb.

 

 Ydw

 Nac ydw

 Ddim yn gwybod

 

11. Cylch gorchwyl arfaethedig y Comisiynydd fyddai:

 

·         llunio safonau BSL;

·         sefydlu panel cynghori BSL;

·         llunio adroddiadau bob pum mlynedd yn BSL, Cymraeg a Saesneg ar sefyllfa BSL yn y cyfnod hwnnw;

·         darparu arweiniad a phroses i gyrff cyhoeddus hybu a hwyluso BSL yn eu priod barthau;

·         sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion.

A ydych chi’n cytuno â chylch gwaith arfaethedig y Comisiynydd, ac a oes unrhyw ddarpariaethau eraill yr hoffech eu cynnwys yn ei gylch gwaith? Rhowch resymau dros eich ateb.

12. A ydych chi'n cytuno y dylai'r Comisiynydd BSL ac aelodau'r Panel Cynghori BSL fod yn ddefnyddwyr/arwyddwyr rhugl?

 

 Ydw

 Nac ydw

 

13. A ydych chi’n credu y dylai’r Comisiynydd BSL a’r Panel Cynghori arfaethedig flaenoriaethu’r canlynol? Ticiwch bob un sy’n gymwys a rhowch resymau dros eich ateb.

 

 Galluogi defnyddwyr/arwyddwyr byddar i arwain y gwaith o ddatblygu polisïau a rhoi gwasanaethau ar waith ar gyfer defnyddwyr/arwyddwyr BSL;

 Darparu cymorth iaith i blant byddar a'u teuluoedd yn y blynyddoedd cynnar;

 Gwella darpariaeth BSL mewn addysg;

 Sicrhau mynediad at ddehonglwyr mewn gwasanaethau cyhoeddus.

 

14. A ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i osod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i lunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol ar BSL? Rhowch resymau dros eich ateb.

 

 Ydw

 Nac ydw

 Ddim yn gwybod

 

15. A oes unrhyw faterion eraill yr hoffech eu codi am y Bil a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig?